The Nile on eBay
  FREE SHIPPING UK WIDE
 

Cofio Mair Penri a Dan Puw

by Gwen Edwards

The community of Parc near Bala lost two valuable members in 2019; it was a loss felt throughout Wales. Both received the T. H. Parry-Williams Medal by the National Eisteddfod of Wales - the highest accolade for service to culture and community. This is a unique feat in the history of any village throughout Wales.

FORMAT
Paperback
LANGUAGE
Welsh
CONDITION
Brand New


Publisher Description

The community of Parc near Bala lost two valuable members in 2019; it was a loss felt throughout Wales. Both received the T. H. Parry-Williams Medal by the National Eisteddfod of Wales - the highest accolade for service to culture and community. This is a unique feat in the history of any village throughout Wales.

Review

Yn ôl y testun ar gefn y llyfr 'Collwyd dau aelod o gymdeithas y Parc ym Mhenllyn yn 2019; roedd hi'n golled i Gymru gyfan ... Penderfynwyd cofio am y ddau ar y cyd mewn cyfarfod yn y Parc ddechrau 2020. Y teyrngedau a'r perfformiadau hynny yw sail y gyfrol hon. Yn wahanol i'r arfer, mae'n addas a gweddus cofio am y ddau gyda'i gilydd – maent yn cyfannu cylch o hiwmor, hwyl, dawn ac angerdd mewn meysydd gwahanol sy'n perthyn i'r un diriogaeth.'Cyfrol gymysg a gawn yma, felly o deyrngedau, atgofion a gweithiau Dan Puw a Mair Penri eu hunain – boed yn erthygl i Pethe Penllyn, ymson, monolog neu sgets. Mae'r teyrngedau a'r atgofion wedi'u cyflwyno drwy'i gilydd, ac mae yma lawer iawn o luniau difyr hefyd.R. Alun Evans sydd wedi ysgrifennu'r cyflwyniad, sy'n ddewis addas iawn gan mai ef sydd wedi bod yn Feistr Defod Medal Syr T. H. Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 2003, gan anrhydeddu Mair Penri Jones yng Nghaerdydd yn 2008 a Dan Puw ym Modedern yn 2017. Cawn deyrngedau ac atgofion am Dan gan Gwen Edwards, ei blant Mererid, Euros, Iolo, Ffuon a Guto, ei nai – y diweddar Gareth Pierce, pwyllgor y Gymdeithas Gerdd Dant, Arfon Williams, ei wyrion Gwenno, Ceredig a Martha Puw, Huw Antur a Myrddin ap Dafydd.Daw'r teyrngedau a'r atgofion am Mair gan Gwen Edwards, Rhian Dafydd, ei mab Siôn Pennant, Joyce Huw, Siân a Siwan ei pherthnasau, Penri ei gr, Tegwen Morris Merched y Wawr, Lloyd Davies a Caoimhe Melangell ei hwyres. Mae yma sawl teyrnged i'r ddau gan feirdd hefyd.Roeddwn i'n nabod y ddau ohonynt gan fy mod yn dod o'r un ardal, ond rwyf wedi dod i'w nabod yn llawer gwell drwy'r gyfrol hon, gan ddysgu am eu cefndir ac am yr holl bethau a wnaethant yn ystod eu bywydau. Dysgais rai pethau annisgwyl hefyd – pwy feddyliai mai Dan oedd y cyntaf i wneud gosodiad cerdd dant ar gyfrifiadur, ac ar sail hynny bu'n cynnal cwrs gosod ar gyfrifiadur i'r Gymdeithas Gerdd Dant. Ac er mai fel dynes hwyliog yn byrlymu o hiwmor y mae'r rhan fwyaf yn cofio Mair, diddorol oedd darllen mai dramâu difrifol a dwys oedd yn mynd â'i bryd. Roedd hiwmor arbennig yn perthyn i'r ddau ac mae hynny i'w weld yn gryf yn y llyfr. Beth sy'n amlwg hefyd yw eu bod wedi cael dylanwad ar gymaint o bobl ifanc a hn – drwy hyfforddi, eu gwaith ym myd cerdd dant, y ddrama, Merched y Wawr ac yn ehangach. A chymaint yn ddiolchgar iddynt.Prynwch y gyfrol deyrnged hon – mae'n fargen am £8. Cewch ddysgu mwy am y ddau arbennig yma a roddodd bentref bach y Parc ar y map. -- Nest Gwilym @

Details

ISBN1845278887
Publisher Gwasg Carreg Gwalch
Language Welsh
Year 2022
ISBN-10 1845278887
ISBN-13 9781845278885
Format Paperback
Imprint Gwasg Carreg Gwalch
Place of Publication Pwlheli
Country of Publication United Kingdom
AU Release Date 2022-04-29
NZ Release Date 2022-04-29
Pages 168
Publication Date 2022-04-29
UK Release Date 2022-04-29
Author Gwen Edwards
Edited by Gwen Edwards
DEWEY 780.92
Audience General

TheNile_Item_ID:135158388;